Mae'r gwasanaeth allymestyn ar gyfer plant a phobl ifanc 7-18 oed ag anabledd.
Byddwn yn trafod gyda chi a'ch plentyn a'i Weithiwr Cymdeithasol pa fath o weithgarwch y gallwn ni ei gynnig, megis:
Hefyd, rydyn ni'n cynnig grwpiau wedi'u targedu ar gyfer plant a phobl ifanc ag anabledd (Pecyn Gweithgarwch yn y Drenewydd, ac Ein Grŵp yn Aberhonddu), lle rydyn ni'n trafod gyda'r plant a phobl ifanc pa fath o weithgareddau maen nhw am eu gwneud (hynny yw sgiliau bywyd - coginio, siopa, a chwaraeon.
Os bydd y tîm Plant ag Anabledd yn gweithio gyda’ch plentyn, ac os bydd ganddo Gynllun Gofal a Chymorth wedi'i gwblhau gan ei Weithiwr Cymdeithasol, gellir mynd â hyn i'r cyfarfod panel misol i asesu pa gymorth sydd ar gael. Ar ôl cytuno'r cymorth yn y cyfarfod panel, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu ymweld i gwblhau'r gwaith papur ac i drafod anghenion eich plentyn yn fwy manwl.
Os nad yw’r tîm Plant ag Anabledd yn gweithio gyda’ch plentyn, bydd angen i asiantaeth sydd eisoes yn gweithio gyda'ch plentyn gwblhau ffurflen atgyfeirio Asesu'r Plentyn a'r Teulu neu Gynllun Gofal a Chymorth er mwyn amlygu'r angen am gymorth. Wedyn, aiff y ffurflen i gyfarfod brysbennu i'w thrafod, ac ar ôl ei chytuno, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu ymweld i gwblhau'r gwaith papur ac i drafod anghenion eich plentyn yn fwy manwl.
Rydyn ni'n gweithio gyda gwasanaethau lleol eraill, megis y Gwasanaeth Anabledd Integredig, Tîm o Gwmpas y Teulu, a Gwasanaethau Plant i helpu teuluoedd i gael y cymorth iawn ar yr adeg iawn.