Visit Main Site

Cefnogaeth i Blant a Theuluoedd ym Mhowys

Cymorth i sefydliadau neu leoliadau

Cymorth i sefydliadau neu leoliadau

Rydyn ni'n cynnig cymorth i blant a phobl ifanc 0-25 oed sydd ag anghenion ychwanegol.

Mae'r cymorth yr ydyn ni'n ei gynnig i feithrinfeydd, grwpiau chwarae a chlybiau cymunedol yn amrywio; gallai fod ar ffurf sgwrs ffôn, cyfeirio at ffynonellau cyngor, hyfforddiant ar gyfer anghenion arbennig, neu gyfraniad ariannol tuag at ddarparu aelod ychwanegol o staff.

Sut i gael mynediad at ein gwasanaethau

Os bydd y tîm Plant ag Anabledd yn gweithio gyda’ch plentyn, ac os bydd ganddo Gynllun Gofal a Chymorth wedi'i gwblhau gan ei Weithiwr Cymdeithasol, gellir mynd â hyn i'r cyfarfod panel misol i asesu pa gymorth sydd ar gael. Ar ôl cytuno'r cymorth yn y cyfarfod panel, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu ymweld i gwblhau'r gwaith papur ac i drafod anghenion eich plentyn yn fwy manwl.

Os nad yw’r tîm Plant ag Anabledd yn gweithio gyda’ch plentyn, bydd angen i asiantaeth sydd eisoes yn gweithio gyda'ch plentyn gwblhau ffurflen atgyfeirio Asesu'r Plentyn a'r Teulu neu Gynllun Gofal a Chymorth gyda chi er mwyn amlygu'r angen am gymorth. Wedyn, aiff y ffurflen i gyfarfod brysbennu i'w thrafod, ac ar ôl ei chytuno, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu ymweld i gwblhau'r gwaith papur ac i drafod anghenion eich plentyn yn fwy manwl.

Os nad oes gan eich plentyn anabledd, ond mae asesiad wedi dangos anghenion ychwanegol, bydd angen i rywun sydd eisoes yn gweithio gyda'ch plentyn (hynny yw darparwr gofal plant neu ymwelydd iechyd) gwblhau ffurflen atgyfeirio Asesu'r Plentyn a'r Teulu gyda chi. Anfonir y ffurflen at y Tîm o Gwmpas y Teulu a fydd yn ei hanfon atom ni, ac wedyn gallwn ni gysylltu â'r lleoliad a'r teulu i gychwyn y cymorth.

Rydyn ni'n gweithio gyda gwasanaethau lleol eraill, megis y Gwasanaeth Anabledd Integredig, y Tîm o Gwmpas y Teulu, a Gwasanaethau Plant i helpu teuluoedd i gael y cymorth iawn ar yr adeg iawn.