Blynyddoedd Rhyfeddol
Cynhelir grwpiau Blynyddoedd Rhyfeddol® ar draws Powys fel y gall rhieni rannu eu sgiliau a'u profiad a dysgu oddi wrth rieni eraill.
Mae'r grwpiau ar ffurf cwrs strwythuredig sy'n canolbwyntio ar broblemau sy'n codi yn y gwahanol grwpiau oedran (0-6 mis, 1-3 oed, 3-6 oed, a 6-11 oed).
Mae'r rhaglenni'n cynnwys rhwng 8 a 14 sesiwn wythnosol, ac mae'r pynciau'n amrywio o chwarae gyda'ch baban ac annog datblygiad iaith i sefydlu patrymau cysgu a lleihau ymddygiad digroeso.
Dylai rhieni a gofalwyr gysylltu â'r cydlynwyr gan ddefnyddio'r rhifau ffôn ar waelod y dudalen hon i fynegi diddordeb mewn mynychu cwrs ac i gwblhau ffurflen gofrestru.
Eich Baban Rhyfeddol
(Rhaglen Blynyddoedd Rhyfeddol® ar gyfer rhieni a babanod)
- Ar gyfer rhieni a babanod llai na 6 mis oed ar ddechrau'r cwrs, gan ganolbwyntio ar flwyddyn gyntaf bywyd y plentyn.
- 9 sesiwn wythnosol, gan gynnwys sesiwn ragarweiniol (2 awr bob wythnos).
- Mae'r rhaglen yn cynnwys dulliau o hybu datblygiad cymdeithasol, emosiynol ac ieithyddol eich plentyn.
Eich Plentyn Bach Rhyfeddol
(Rhaglen Blynyddoedd Rhyfeddol® ar gyfer rhieni a phlant bach)
- Ar gyfer rhieni plant bach rhwng 1 a 3 oed.
- 14 sesiwn wythnosol, gan gynnwys sesiwn ragarweiniol (2 awr bob wythnos).
- Mae'r rhaglen yn cynnwys diogelwch y plentyn, a'i ddatblygiad cymdeithasol, emosiynol ac ieithyddol, gan ganolbwyntio ar ganmol ymddygiad cadarnhaol a strategaethau am ymdopi ag ymddygiad anodd.
- Mae meithrinfa ar gael.
Eich Plentyn Rhyfeddol (3-6 oed) Sylfaenol
(Rhaglen Blynyddoedd Rhyfeddol® ar gyfer rhieni a phlant)
- Ar gyfer rhieni plant rhwng 3 a 6 oed.
- 15 sesiwn wythnosol, gan gynnwys sesiwn ragarweiniol (2 awr bob wythnos).
- Mae'r rhaglen yn cynnwys chwarae dan gyfarwyddyd y plentyn a sgiliau hyfforddi, canmol a gwobrwyo, arferion disgyblaeth cadarnhaol a gosod terfynau’n effeithiol, trin camymddwyn, a dysgu plant i ddatrys problemau.
- Mae meithrinfa ar gael.
Eich Plentyn Rhyfeddol (6-12 oed) Oedran Ysgol
(Rhaglen Blynyddoedd Rhyfeddol® ar gyfer rhieni a phlant)
- Ar gyfer rhieni plant rhwng 6 a 12 oed.
- 13 sesiwn wythnosol, gan gynnwys sesiwn ragarweiniol (2 awr bob wythnos)
- Mae'r rhaglen yn cynnwys cefnogi addysg eich plentyn, hybu ymddygiad cadarnhaol, a lleihau ymddygiad anaddas.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â
- Jane Quarterman (Cydlynydd Blynyddoedd Rhyfeddol® De Powys) – 01597 822 190
- Janice Hughes (Cydlynydd Blynyddoedd Rhyfeddol® Gogledd Powys) – 01686 628 678